Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

syrthio i'r ddaear ag a geidw'r lleuad yn ei chylchdro o amgylch y ddaear, a'r ddaear o amgylch yr haul. Yr un grym sydd yn llusgo'r comedau'n ôl at yr haul, ar ôl teithiau meithion o bump, deg, a chan mlynedd. A'r un ddeddf wedyn sydd yng nghyrrau pellaf y gwagle, lle y canfyddir drwy'r telesgôp nifer o sêr dwbl y ddwy seren yn ymlwybro o amgylch canolbwynt eu pwysau dan ddylanwad eu cyd-atyniad. Mewn gair, nid deddf fach, leol yw deddf disgyrchiant, yn ymwneud yn unig â gwrthrychau ar wyneb y ddaear hon, ond deddf gyffredinol yn gweithredu drwy'r cyfanfyd oll.

Eto, fe astudir gan y gwyddonydd, gyda'i offeryn celfydd y sbectrosgôp, y math o oleuni a anfonir allan gan y gwahanol atomau materol. Y mae i bob atom ei oleuni priodol ei hun, ac fe geir bod atom arbennig yn anfon allan yr un math o oleuni'n hollol, pa un ai yng ngweithdy'r gwyddonydd, ai yn yr haul, ai yn y seren bellaf y bo. Yr un yn hollol yw priodoleddau cynhenid yr atomau pa le bynnag yn y greadigaeth y digwyddont fod.

Gellid ychwanegu nifer fawr o esiamplau eraill i ddangos bod deddfau anianeg yn gyffredin drwy'r greadigaeth. Unoliaeth trefnusrwydd sefydlogrwydd a deddf yw nodau arbennig y cread.

Effeithiodd darganfod hyn yn ddwfn iawn ar athroniaeth a diwinyddiaeth. Cyn darganfod mai deddf sydd ar yr orsedd, fe gredid mai ffawd a mympwy a lywodraethai'r greadigaeth. Dyna oes euraid y dewiniaid a'r swyngyfareddwyr. Mor fawr, onid e, yw'r gwahaniaeth rhwng seryddwr a sêr-ddewin! Ganrif neu ddwy yn ôl, fe edrychid gyda braw ar y comedau, a welir yn