Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dro ar ei echel ac, o ganlyniad, ymrannu'n raddol yn glwstwr miliynau o sêr. Fe â'r sêr wedyn trwy gwrs hirfaith o ddatblygiad. Ar y dechrau, y mae seren yn gymharol oer—pelen o nwy ysgafn, chwyddedig. Wrth grebachu a dwysáu â'r seren yn boethach a disgleiriach. Ymhen amser, cyrhaedda begwn ei gogoniant ac yna dechreua oeri a phylu yn ei disgleirdeb, fel yr agosâ hen ddyddiau. Yn y diwedd corff tywyll, oer, marw, fydd. Y mae'n haul ni eisoes wedi pasio canol oed.

Ar y ddaear, ym myd y planhigyn a'r anifail, y mae'r yrfa ddatblygu yn llyfr agored. Yn goron ar y cwbl gwelwn ddyn sydd, er mor isel ei dras, erbyn hyn wedi ennill iddo'i hun gyneddfau meddyliol a synnwyr moesol. Nid "cywilyddus gwymp" oedd dyfod i "wybod da a drwg " ond esgyniad. Yn sicr, y mae'r egwyddor o gynnydd a datblygiad yn y greadigaeth yn deilwng o'n hedmygedd addolgar ac yn ffynhonnell cysur, oblegid ynddi hi y gorwedd ein gobaith am ddyfodol dynoliaeth.

Yn y fan hon fe ddaw gwyddoniaeth i ben ei thennyn ar yr hyn a all ei ddywedyd. Mud yw ar y cwestiwn: Pa fodd y daeth y cyfanfyd i fod? Beth yw amcan a phwrpas y cwbl? Beth yw gwir safle dyn yn y cynllun, a beth fydd ei dynged? Cofier eto fod i wyddoniaeth ei therfynau. Gwaith y gwyddonydd yw chwilio am y gwirionedd, a disgrifio'r hyn a wêl â'i lygad ac a glyw â'i glust. Trwy ei arbrofion a'i sylwadaeth fe genfydd y ddeddf hon a'r ddeddf arall. Fe ffurfia ddamcaniaethau, ond nid yw ei ddamcaniaethau na'i syniadau yn derfynol. Newidia'i feddwl yn barhaus fel y