Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llwydda i gael golwg well a chliriach ar weithrediadau natur. Ac nid oes arno gywilydd gwneuthur hynny. Cam ymlaen yw hynny ac nid yn ôl, oblegid ei amcan mawr yw cywirdeb cynyddol yn ei ddisgrifiad a'i ddehongliad o'r hyn a wêl.

Nid yw'r gwyddonydd yn honni medru dywedyd beth yw gwir ystyr y cread. Problem i'r athronydd a'r diwinydd yw hon. Ond gellir dywedyd hyn yn ddibetrus: Beth bynnag fydd y syniad am Dduw a enillir gan y ddynoliaeth ryw ddydd, nid bychan na diwerth fydd cyfraniad gwyddoniaeth at buro a dyrchafu'r syniad hwnnw.