Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wêl sêr i'r gogledd, sêr i'r de, sêr uwch ei ben ac ym mhob cyfeiriad. Ac nid yw i'w feio os cred eu bod yn aneirif. Yn wir, dyna yw'r syniad cyffredin. Ond camgymeriad ydyw. Ni ellir gweld â'r llygad noeth ond tua 4,000 o sêr fel pwyntiau golau ar wahân. Wedi'r cyfan, bychan yw cannwyll y llygad, ac felly ychydig o oleuni a â i mewn iddi. Ond os delir mwy o oleuni'r seren drwy ddefnyddio telesgôp bychan, yna fe welir, yn rhwydd, gan mil o sêr. Gyda'r telesgôp cryfaf fe welir can miliwn, a thrwy gyfrwng y telesgôp a ffotograffiaeth fe argreffir ar y plât oddeutu dwy fil o filiynau. Cofier bod pob un o'r pwyntiau golau hyn yn golygu corff tanllyd, eiriasboeth, y mwyafrif ohonynt filoedd o weithiau'n fwy eu maint a'u tanbeidrwydd na'n haul ni. (Gwêl yr wyneb-ddarlun}.

Ond camgymeriad fyddai meddwl bod y greadigaeth yn gyfyngedig i'r hyn y gellir ei weled trwy gyfrwng y telesgôp. Oblegid y mae'n fwy na thebyg bod llawer o'r sêr yn llywodraethu ar deuluoedd eraill— planedau a chomedau—na ellir eu gweled o gwbl. Hefyd, beth am yr heuliau sydd wedi oeri a marw? Y mae lle i gredu bod nifer y rhai hyn yn llawn cymaint (a dywedyd y lleiaf) â'r cyrff golau. Fel y dywed un awdur —camgymeriad dybryd fyddai amcangyfrif pa faint o bedolau ceffyl sydd ar y ddaear yma oddi wrth y nifer sydd yn digwydd bod yn eiriasboeth ar ryw adeg neilltuol. Felly hefyd gyda rhif y sêr.

Fe gyfyd y cwestiwn yn naturiol, gan hynny—beth yw rhif y sêr? A yw'r cyrff wybrennol yn anfeidrol ac annherfynol eu rhif? Fe ddywedwyd uchod fod oddeutu dwy fil o filiynau o sêr yn eu hargraffu eu