hunain ar y plât, a chyfrifir gan Syr Arthur Eddington nad yw hyn ond un rhan o dair miliwn o'r holl heuliau yn y greadigaeth. Beth yw ystyr rhoi i lawr mewn du a gwyn ffigur o'r fath? A yw hyn yn golygu bod terfynau i'r bydysawd? Ai ynteu awgrymu y mae fod terfyn i allu'n dyfeisiau a'n hofferynnau ni? Dyma gwestiwn anodd ei ateb. Fe fernir gan rai gwyddonwyr nad yw'r cyfanfyd adnabyddus yn ddiderfyn, nad yw rhif y sêr yn wir anfeidrol, a bod ein hofferynnau yn medru tremio bron i gyrrau eithaf y greadigaeth, ond ni ellir ateb y cwestiwn hwn ar hyn o bryd.
Maint y Cyfanfyd
Trown yn awr at agwedd arall i'r testun. Gofynnwn a ellir dywedyd, gyda rhyw gymaint o sicrwydd, beth yw maint y cyfanfyd, neu mewn geiriau eraill, pa mor bell oddi wrthym yw cyrrau eithaf cysawd y sêr? Fe ŵyr pawb fod pellter y sêr mor arswydus fel y caiff y meddwl dynol gryn anhawster i'w amgyffred, os gall o gwbl. Nid yw o un pwrpas inni geisio disgrifio'r pellteroedd hyn mewn milltiroedd. Byddai'r rhes ffigurau'n afresymol o hir ac yn berffaith ddiystyr. Mi sylwais yn yr Almaen fod y pellter o un pentref i'r llall yn cael ei sgrifennu ar y mynecbost, nid mewn milltiroedd, ond mewn munudau neu oriau. Golyga hyn yr amser a gymerir i gerdded rhwng y ddau le. Cynllun cyffelyb a ddefnyddir gan seryddwyr i ddisgrifio pellteroedd yr wybren. Ond yma, nid dyn gyda'i gerdded araf yw'r trafaeliwr, ond goleuni—y negesydd cyflymaf mewn bod. Fe ŵyr pawb fod goleuni'n