Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwibio 186,000 o filltiroedd (seithwaith o amgylch y ddaear) mewn un eiliad, ac felly mewn blwyddyn fe gyflawna'r daith aruthrol o chwe miliwn o filiynau (6,000,000,000,000) o filltiroedd. A dyna yw'r "llathen-fesur" a ddefnyddir gan seryddwyr— "blwyddyn oleuni" (light-year).

Awn yn ôl at y cwestiwn—beth yw pellter y sêr? Y maent yn gwahaniaethu'n ddirfawr yn eu pellter. Y seren nesaf atom, wrth gwrs, yw'r Haul, 93 miliwn o filltiroedd oddi wrthym. Cyflawna goleuni y daith faith hon mewn wyth munud. Ond ac eithrio'r Haul, y seren nesaf yw Proxima Centauri. Ei phellter hi yw pedair blwyddyn oleuni. Yna ceir y seren fwyaf disglair Sirius (seren y Ci), naw mlynedd oddi wrthym. Ond wedi'r cyfan cymharol agos yw'r rhain. Y mae sêr yr Arth Fawr bedwar ugain mlynedd oddi wrthym, clwstwr Twr Tewdws (Pleiades) dri chant a hanner, y cytser gogoneddus Orion chwe chan mlynedd. Arhosed y darllenydd am foment yn ystyriol uwchben y ffigurau hyn. Y mae'n wir na all amgyffred yr eangderau mewn milltiroedd, ond gall sylweddoli pan fo'n edmygu gogoniant Orion fod ei oleuni wedi cychwyn ar ei daith hirfaith 600 mlynedd yn ôl, ac nad yw gan hynny yn gweled y cytser ardderchog hwn yn ei gyflwr a'i ffurf bresennol ond fel yr oedd ganrifoedd yn ôl— tuag adeg geni Tywysog cyntaf Cymru. Ond beth wyf yn sôn? Cymdogion agos i ni yw'r rhain. Y mae profion cryf fod rhai o'r sêr-glystyrau 20,000, ie, 200,000 o "flynyddoedd-goleuni" oddi wrthym. Yn sicr, ni ellir meddwl yn ystyriol uwchben y ffeithiau hyn heb gael ein gorchfygu gan wylder a pharchedig ofn.