Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cwestiwn arall o ddiddordeb mawr yw hwn: A oes siâp neu ffurf arbennig i'r cyfanfyd? Ac os oes, beth yw? Ai crwn, fflat, ai beth?

Gwahoddwn y darllenydd unwaith eto i edrych i fyny i'r wybren ar noson glir. Pa beth a wêl? Fe wêl sêr yn disgleirio yma ac acw ym mhob cyfeiriad ac felly gallesid tybio ar yr olwg gyntaf fod y cyfanfyd yn grwn. Ond rhaid aros am foment. Beth yw'r Llwybr Llaethog—y rhuban golau a welir yn croesi'r ffurfafen gan amgylchu ein daear fel gwregys o oleuni? Pan gymerir ffotograff o'r rhan hon o'r wybren, ymddengys y plât fel pe wedi ei orchuddio gan nifer dirifedi o sêr, mor agos at ei gilydd fel mai prin y gellir rhoi blaen pin rhyngddynt. Nid yw'r un peth yn wir wrth droi'r telesgôp at ran o'r wybren y naill ochr i'r Llwybr Llaethog. Cymharol brin ac anaml ydynt yno. Dengys hyn yn glir fod y mwyafrif mawr o'r bydoedd uwchben wedi eu crynhoi at ei gilydd ar ffurf disg neu blât enfawr. Bernir bod ei drawsfesur o un ymyl i'r llall yn 500,000 o flynyddoedd-goleuni, tra nad yw ei drwch ond tua 5,000. Y mae lle i gredu hefyd nad yw'r Haul (ac felly y Ddaear) ymhell o ganol trwch y disg. Yng nghyfeiriad ymylon y disg felly y gwelir mwyafrif y sêr. Dyna sy'n cyfrif am ymddangosiad y Llwybr Llaethog. Y mae'n sicr fod y disg mawr hwn yn troi yn gyflym ar ei echel fel olwyn, ac, yn wir, mai oherwydd ei chwyrnelliad cyflym y cymerodd y cwbl y ffurf arbennig a nodwyd.

Nid dychmygion rhyfygus a diwerth yw'r gosodiadau uchod. Y mae cryn sail iddynt, oblegid fe ddengys y telesgôp nifer mawr (miliynau) o wrthrychau