Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y ffurfafen—y nifylau troellog (spiral nebulae) sy'n cyfateb yn hollol i'r darlun uchod o'r Llwybr Llaethog. [Gwel darlun I] Y mae iddynt ffurf disg. Y mae eu maintioli'n aruthrol, eu pellter yn anfesurol, ac y maent yn troi yn gyflym ar eu hechel. Am y rheswm hwn cred llawer o seryddwyr o fri mai nifwl troellog oedd y Llwybr Llaethog ar un adeg a'r sêr y gwyddom amdanynt, ac na pherthyn y nifylau troellog eraill o gwbl i'n "cyfanfyd ni," yn hytrach "ynysgreadigaethau" ydynt, ynghrog yma ac acw yn y gwagle, bellteroedd anfesurol ar wahân oddi wrth ein "cyfanfyd lleol," ac yn cynnwys miloedd o filiynau o heuliau, neu ddigon o fater i gynhyrchu'r heuliau hyn yn ystod treigliad oesau i ddod. Ceir ymdriniaeth bellach ar y cwestiwn hwn yn y bennod ar "Ddatblygiad ym myd y Sêr."