Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II

Y MAWR A'R BACH YN Y GREADIGAETH

ii. Y Bach

Yn y bennod o'r blaen, ein testun oedd Mawredd y Greadigaeth. Buom yn trafod nifer y sêr a'u pellter oddi wrthym. Y mae gwrthrychau yn ein ffurfafen mor bell oddi wrthym ac i'w gweld yn disgleirio, nid fel y maent ar hyn o bryd, ond fel yr oeddynt ugain mil—ie ddau can mil—o flynyddoedd yn ôl. Goleuni, y gennad gyflymaf5 sydd yn eu datguddio inni. Mewn gair nid oes terfyn i'r Greadigaeth. Y mae'n anfesurol ac yn anfeidrol Fawr.

Yn y bennod hon trown ein golygon i'r cyfeiriad arall—i gyfeiriad Y Bach—byd yr atom a'r electron a'r proton, y byd hwnnw y bu'r darganfyddiadau pwysicaf ynddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn anffodus, y mae'r un mor anodd meddwl ac amgyffred bychander byd yr atom ag yw sylweddoli mawredd byd y sêr. Ffordd i leihau'r anhawster yw defnyddio eglurebau syml.

Byd y Microsgôp

Mesur y gwrthrych lleiaf a welir â'r llygad noeth tuag un rhan o 250 o fodfedd. Gall microsgop da chwyddo gwrthrych 200 o weithiau, ac felly gellir gweled gwrthrych sydd cyn lleied ag un rhan o 50,000