Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

annisgrifiadwy o fychan. Ceisiwn ddangos hyn trwy gyfrwng eglureb neu ddwy.

(1) Gan fod yr atomau mor fân, y mae'n eglur fod nifer fawr ohonynt mewn swm bychan iawn o fater. Er enghraifft, y mae 50,000,000,000,000,000,000 o atomau oxygen a nitrogen mewn llond gwniadur o awyr. Rhaid cydnabod na ellir amgyffred ffigur o'r fath. Felly, rhaid edrych ar y mater o gyfeiriad arall.

(2) Pe chwyddid defnyn o ddŵr (gwlithyn) i faint y ddaear, ni byddai'r atomau o'i fewn lawer mwy nag afalau. Cwestiwn naturiol y darllenydd yn awr yw— Pa faint o afalau sy'n eisiau i wneud pelen gron o faint y ddaear? Y mae'r un nifer o atomau hydrogen ac oxygen mewn defnyn o ddŵr.

Dyma ddwy eglureb ychwanegol (o eiddo'r Dr. Aston):

(3) Fe ŵyr y darllenydd nad oes dim awyr oddi mewn i bulb goleuni trydan. O'i mewn ceir y vacuum perffeithiaf y gellir ei gynhyrchu. Tybier bod twll bychan yn cael ei wneuthur yn y gwydr, a bod ei faint yn gyfryw ag i ganiatáu i gan miliwn o atomau'r awyr lifo i mewn bob eiliad. Faint o amser, tybed, a â heibio hyd nes bod y llestr wedi ei lwyr lenwi ag awyr? Anodd yw credu mai'r ateb cywir yw can miliwn o flynyddoedd!

(4) Ceisied y darllenydd feddwl am foment pa sawl cwpanaid o ddwfr sydd yn holl foroedd ac afonydd y byd yma. Cydnabyddir bod nifer go fawr. Ond y