Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae'n achos syndod fod nifer yr atomau yn y cwpanaid dwfr 65000 o weithiau yn fwy. Dyna ddigon i ddangos mai peth bychan iawn yw atom.

Byd yr Electron a'r Proton

Hawdd meddwl ein bod yn yr atom wedi cyrraedd y peth lleiaf yn y greadigaeth, ond nid felly y mae.

Ystyr y gair atom yw—yr hyn na ellir ei dorri, a hyd yn gymharol ddiweddar fe gredid bod hwn yn enw eithaf priodol. Ond gwyddom erbyn hyn y gellir dryllio'r atom a'i ddosrannu i nifer o ronynnau llai fyth. Dyma'n wir un o ddarganfyddiadau mawr y ganrif hon. A rhyfedd iawn, nid gronynnau o fater yn ystyr gyffredin y gair yw'r is-ronynnau hyn, ond gronynnau o drydan. Ac y mae dau fath ohonynt, gronyn o drydan positif a elwir "y proton," a gronyn o drydan negatif a elwir "yr electron." Nid oes neb hyd yn hyn yn gwybod beth yw trydan, nac yn deall ystyr y ffaith bod dau fath ohono. Ond er hynny, trwy ymchwiliadau'r Proff. J. J. Thomson a'r Arglwydd Rutherford (yn bennaf), gwyddom bwysau a maint y gronynnau trydan hyn—"y priddfeini sylfaenol" y mae holl atomau mater wedi eu hadeiladu ohonynt. Y mae'r electron 10,000 o weithiau yn llai na'r atom lleiaf, ac y mae'r proton 2,000 o weithiau yn llai fyth. Ond yn rhyfedd iawn y gronyn lleiaf o'r ddau (y proton) sydd yn pwyso fwyaf. Yn wir, y mae'r proton 2,000 o weithiau yn drymach na'r electron. Felly, hyd y gwyddys yn bresennol, yr electron yw'r peth ysgafnaf yn y greadigaeth a'r proton yw'r peth lleiaf.