Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwech o electronau wedi eu cydgrynhoi i ffurfio'r cnewyllyn, ac yna chwech o electronau eraill yn chwyrnellu mewn cylch (neu gylchoedd) o gwmpas y cnewyllyn. Mewn atom o haearn eto ceir 560 brotonau a 30 o electronau yn y cnewyllyn ac yna 260 electronau yn troi fel planedau. Gwelir oddi wrth y ffigurau hyn fod pob atom yn cynnwys ar y cyfan yr un nifer o electronau ag o brotonau.

Gan nad oes, yn ôl y disgrifiad uchod, wahaniaeth hanfodol rhwng atomau'r elfennau, ceir awgrym y gellir efallai

Drawsnewid un Elfen i fod yn Elfen Arall

Yn wir, y mae radium ohono'i hun yn gwneuthur hyn. Newidia'n raddol i'r elfen adnabyddus—plwm. Yn awr ac eilwaith y mae atomau radium yn ffrwydro, gan hyrddio allan o'r cnewyllyn delpyn cymharol drwm—y gronyn alpha fel y'i gelwir. Ac yn wir nid yw hwn yn ddim llai na chnewyllyn atom helium. Ac wrth gwrs, ar ôl " trychineb " o'r fath, nid radium yw'r atom mwyach ond atom elfen arall ac ysgafnach—atom niton. Yn wir, y mae pump o'r ffrwydriadau hyn yn dilyn ei gilydd y naill ar ôl y llall hyd nes y bydd yr atom radium wedi dod yn atom plwm. Nid yw gwres nac oerni na thrydan nac unrhyw ddylanwad arall at wasanaeth dyn yn medru arafu na chyflymu'r trawsnewidiad hwn o radium yn blwm. Casglwyd gan hynny fod trawsnewid un elfen yn elfen arall yn rhywbeth y tu hwnt i allu dyn. Ond y mae'r Arglwydd Rutherford o Gaergrawnt newydd lwyddo i droi nitrogen yn garbon. Dyma ddarganfyddiad o'r pwysigrwydd