Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sylwedd mwy elfennol a sylfaenol fyth—yr ether, dyweder —cyfodai wedyn y cwestiwn: O ba le y daeth yr ether? Ac fe ellid dilyn yr ymresymiad ymlaen yn ddiderfyn. Mewn gair, nid yw Gwyddoniaeth yn taflu dim goleuni sydd yn bodloni meddwl dyn ynglŷn â'r hen gwestiwn dechreuad y Greadigaeth Fater. Cred rhai fod yr atomau neu'r electronau yn bod er tragwyddoldeb. Cred eraill eu bod wedi eu galw i fod trwy air Duw. Yn fy marn i, nid yw Gwyddoniaeth yn dywedyd dim yn uniongyrchol ar y cwestiwn hwn. Ni ellir profi'r Bod o Dduw drwy ymchwiliadau gwyddonol, ac y mae'r un mor sicr na ellir ar sail gwyddoniaeth ei wrthbrofi.