Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny, sut y gellir mentro dweud stori datblygiad y sêr? A'r ateb digonol yw fod gwrthrychau i'w canfod yn y ffurfafen sydd ym mhob gris ar raddfa datblygiad. Dyma eglureb: Tybier bod dyn craff na ŵyr ddim o hanes datblygiad coeden yn treulio awr neu ddwy mewn coedwig. Fe welai yno rai prennau cedyrn yn anterth eu nerth; hefyd rai llai eu maint a'u praffter, hefyd blanhigion bychain tyner yn gwthio'u pennau allan o'r ddaear. Gwelai hefyd rai prennau wedi dechrau crino a dadfeilio, a rhai ohonynt wedi cwympo ac yn gorwedd yn farw ar lawr. Oni allai â'i reswm noeth adrodd yn bur gywir hanes tyfiant, datblygiad a marw'r pren? Y mae'n wir na allai mewn ysbaid byr o un awr wybod am yr hedyn a'r modd y disgyn i'r ddaear a marw a thyfu. Felly nid yw ei stori yn hollol gyflawn. Yr un modd yn union, wrth droi ein golygon tua'r nefoedd, yr ydym yn gweld yno heuliau a chyfundrefnau mewn gwahanol gyflyrau—ac y mae'r hanes megis yn datblygu o flaen ein llygaid. Ond sylwer, nid yw'r stori yma chwaith yn gyflawn, nid yw'r dechreuad eithaf yn hollol eglur. Mor bell ag y gwelwn, rhaid meddwl am ddwyfol greadigaeth yr atomau mater, neu o leiaf yr electronau a'r protonau sydd yn cyfansoddi'r atomau. Yn y ffurfafen gwelwn yr atomau hyn yn ffurfio nifylau, clystyrau sêr, heuliau a phlanedau, a dyna a geisiwn ei wneud, sef ceisio adrodd sut y daeth y gwahanol wrthrychau hyn i fod yn rhinwedd y priodoleddau a roddwyd yn yr atomau materol pan grëwyd hwynt. Bwriedir egluro'r modd y daw'r atomau at ei gilydd i ffurfio nifwl. Yna egluro'r modd y try'r nifwl wedyn ar ôl oesau maith yn glwstwr o sêr, yn