Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynnwys miliynau o heuliau mawreddog. Yna adroddir hanes datblygiad pellach un o'r heuliau hyn— ein haul ni, a'r modd y cenhedlwyd ohono mewn dull rhyfedd a diddorol y teulu o blanedau sydd yn troi o'i gwmpas. Ac yn olaf, ceisir egluro'r modd y crëwyd y lleuad, megis o asen y ddaear, i fod yn gydymaith iddi yn ei gwibdaith oesol o amgylch yr haul.

Genir Nifwl Troellog

Rhywbryd ymhell bell yn ôl5 " cyn bod amser," daeth i fod yma ac acw yn y gwagle diderfyn nifer dirifedi o fân-ronynnau mater, y cwbl yn ffurfio nwy neu nifwl tenau, ysgafn, oer, gyda phellter mawr rhwng pob gronyn a'i gymydog. Ein gwaith yn awr fydd dilyn cwrs datblygiad y nifwl cyntefig hwn fel canlyniad i'r priodoleddau a roddwyd i'r atomau yn eu creadigaeth.

Un o'r priodoleddau hanfodol hyn yw atyniad disgyrchiant. Hynny yw, y mae pob atom yn tynnu ac yn cael ei dynnu gan bob atom arall. Dangoswyd yn ddiweddar gan y seryddwr enwog, Dr. Jeans, mai canlyniad hyn yw bod y nifwl gwreiddiol hwn yn ymrannu yn raddol yn nifer o nifylau llai a bod pob un o'r is-nifylau hyn yn ymgrebachu ac ymddwyso'n raddol. Felly ar ôl oesau maith cynhwysai'r greadigaeth nifer fawr o nifylau ar wahân yma ac acw yn y gwagle. Cofier bod eu maint a'u pellter oddi wrth ei gilydd yn gymaint nes bod bron y tu hwnt i amgyffred meddwl dyn. Ond er eu pellter oddi wrth ei gilydd, y maent, serch hynny, yn dylanwadu ar ei