Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyflwr yma yn awr yw'r seren fawr goch Betelgeux yn Orïon. (Mesurwyd tryfesur y seren hon yn ddiweddar gan y seryddwr Americanaidd Michelson, a chafwyd ei bod yn 200 miliwn o filltiroedd, tra nad yw tryfesur yr haul yn awr yn llawn un miliwn.) Fel yr aeth oesau maith heibio, parhau i ymgrebachu a wnâi'r haul, a thrwy hynny gynyddu fwyfwy yn ei wres a'i danbeidrwydd-ei oleuni yn mynd yn wynnach, wynnach, nes iddo ddyfod yn debyg i'r seren ddisglair Sirius ar hyn o bryd. Yr oedd yr adeg honno wedi cyrraedd blynyddoedd " canol oed," ac yn anterth ei ogoniant a'i ddisgleirdeb. O'r adeg honno ymlaen dechreuodd " ddirywio," lleihaodd ei faintioli a'i ddisgleirdeb yn raddol nes unwaith eto ddyfod yn seren gymharol oer a'i oleuni yn felyngoch. Ac yn y cyflwr hwn y mae ein haul ar hyn o bryd. Sylwn felly mai seren hen yw'r haul ac wedi pasio pegwn ei ogoniant filiynau lawer o flynyddoedd yn ôl.

Geni'r Ddaear

Ond ni ellir gadael yr hanes yn y fan hon. Fel y gŵyr pawb, amgylchir yr haul gan nifer o blanedau, ac yn eu mysg y Ddaear, a phriodol yw gofyn—O ba le y daethant? Ai wedi eu casglu y maent gan yr haul yn ystod ei wibdaith drwy'r ehangder? Nage, yn hytrach —plant yr haul yw'r planedau wedi eu geni allan o'i gorff, ac yn ôl Jeans fel hyn y digwyddodd.

Rhaid cofio i ddechrau nad yw'r sêr yn aros yn sefydlog yn eu hunfan. Y maent mewn gwirionedd yn rhuthro trwy'r ehangder mewn gwahanol gyfeiriadau.