Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar y cyfan y mae'r sêr mor bell oddi wrth ei gilydd fel mai digwyddiad pur anghyffredin yw i ddwy seren ddyfod i wrthdrawiad uniongyrchol â'i gilydd. Ond pan ddigwydd hyn, cynhyrchir cymaint o wres nes chwalu'r ddwy seren yn nifwl eiriasboeth unwaith eto. (Hyn, y mae'n debyg, sy'n egluro bod sêr newydd o dro i dro yn ymddangos yn sydyn yn y ffurfafen.) Gwelir felly na byddai digwyddiad o'r fath o unrhyw help yn yr ymchwil am eglurhad i gychwyn y planedau.

Ond tybier bod yr haul a hefyd ryw seren arall, yn eu gwibdaith drwy'r gwagle, ryw dro (yn lle ymdaro benben â'i gilydd) wedi pasio yn hytrach o fewn ychydig bellter i'w gilydd, fel dau fodur yn pasio'i gilydd ar yr heol. Hawdd yw deall y byddai dylanwad disgyrchiant rhwng dau gorff mawr fel hyn, o fewn ychydig bellter i'w gilydd, yn aruthr o fawr, a'r canlyniad fyddai i swm mawr o fater ruthro allan o'r haul ac o'r seren arall yn un "stribed" hir. Gwyddom fod trai a llanw y môr i'w briodoli (yn bennaf) i waith y lleuad yn codi wyneb y môr trwy dyniad disgyrchiant. Felly hefyd, ond ar raddfa fwy o lawer, llusgwyd allan o'r haul gan y "seren-ymwelydd" y mater a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach i ffurfio'r planedau. Oblegid gellir dangos y byddai'r stribed hon o fater yn fuan iawn yn ymrannu yn nifer o belennau, a'r rhai hyn yn ddi-ddadl yw'r planedau. Eglura'r ddamcaniaeth hon mewn modd prydferth a boddhaol paham y try'r holl blanedau o amgylch yr haul yn yr un cyfeiriad, a hefyd, paham y ceir y planedau mawr trymion (lau a Sadwrn) yng nghanol y rhestr, a'r planedau bychain (Mercher a Pluto) yn y ddau ben.