Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelwn felly, ar un olwg, mai ar ddamwain, megis, y daeth ein haul ni yn berchen planedau, ac y daeth y ddaear, cartref dyn, i fod. Ond camgymeriad fyddai meddwl mai i'r haul yn unig y digwyddodd hyn. Nid oes amheuaeth nad yw'r un peth wedi digwydd i gannoedd o heuliau eraill, ac felly hawdd yw credu bod planedau tebyg i'n daear ni yn cylchdroi o amgylch heuliau eraill. A chan fod mater yn meddu ar yr un priodoleddau, lle bynnag y'i ceir yn y greadigaeth, ni ellir llai na chredu bod bywyd a chreaduriaid rhesymol (dynion, efallai) yn bod ar nifer fawr o gyrff eraill yma ac acw yn y greadigaeth. Efallai hefyd, fel yr awgryma'r Esgob Barnes, fod trigolion rhai o'r planedau hyn wedi cyrraedd lefel meddwl ac ysbryd ymhell y tu hwnt i'r lefel y ceir trigolion y ddaear hon arni yn bresennol.