Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Arsyllfa Mount Wilson.
DARLUN V
Rhan o wyneb y lleuad drwy delesgôp cryf.
Sylwer ar y mynyddoedd uchel yn amgylchu'r gwastadedd eang a elwir Mare Imbrium. Y mae amryw o'r mynyddoedd dros 15,000 o droedfeddi o uchder, ac y mae safnau rhai o'r hen losg-fynyddoedd yn ddigon mawr i lyncu dwy neu dair o siroedd Cymru gyda'i gilydd.