Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV

DATBLYGIAD YM MYD Y SÊR

ii. Geni'r Lleuad

Byd rhyfedd yw'r lleuad, ein cymydog nesaf yn yr wybren. Nid oes yno nac awyr na dŵr na chwmwl. Yno ceir gwastadeddau ac anialdiroedd eang, mynyddoedd cribog uchel, llosgfynyddoedd wedi oeri a thawelu ers oesau. Byd o ludw yw, byd di-sŵn, byd marw. Cymer ysbaid o bedair wythnos i droi unwaith ar ei echel; mewn geiriau eraill, pery'r " dydd " yno (sef o godiad haul i'w fachlud) am bythefnos, a'r nos yr un faint. Ac o ganlyniad y mae gwres y dydd yn ddeifiol ac oerni'r nos yn angerddol ac yn angheuol i unrhyw fath o fywyd.

Ni welodd llygad dyn erioed ond un wyneb yn unig i'r lleuad, a hynny am y rheswm diddorol ei bod yn cymryd yr un faint o amser i droi ar ei hechel ag a gymer i gyflawni ei siwrnai o amgylch y ddaear. Ac nid damwain yw hyn, ond canlyniad uniongyrchol achos arbennig a fu'n gweithio yn ddistaw a diflino dros oesau meithion. A'r achos hwnnw oedd rhwbiad y teitiau mawreddog, a godwyd gan y ddaear ar y lleuad cyn i'r olaf oeri a chaledu. Gweithreda trai a llanw y teitiau fel brêc, gan arafu yn raddol droad y lleuad ar ei hechel, a'r stad derfynol yw'r hon sydd yn bod yn awr —sef y lleuad yn dangos yr un wyneb i'r ddaear yn barhaus. (Cawn egluro ymhellach ymlaen mai corff