Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hylif oedd y lleuad pan anwyd hi allan o'r ddaear. Bu am amser maith yn nes o lawer i'r ddaear nag yw yn awra’r adeg honno yr oedd y teitiau ar y lleuad yn rhai uchel iawn ac yn effeithiol iawn fel brêc ar ei throad.)

Diddorol yw sylwi fod y teitiau godir yn awr gan y lleuad yn y môr ar y ddaear yn gweithredu mewn modd cyffelyb ac yn arafu'n raddol droad y ddaear ar ei hechel, gyda'r canlyniad anochel fod hyd ein " dydd ni hefyd yn ymestyn yn raddol. Bychan iawn yw'r effaith hwn yn awr, mae'n wir—dim ond estyn un eiliad mewn can mil o flynyddoedd.

Beth yw y rheswm fod y lleuad yn ymbellhau yn raddol oddi wrth y ddaear? Mae'n bellach heno nag oedd flwyddyn yn ôl. Canlyniad yw hyn i'r un achos eto—rhwbiad y teitiau ar y ddaear. Oblegid y mae'n dilyn (fel canlyniad i " ddeddfau symudiad,") fod yr arafu yn nhroad y ddaear a'r lleuad ar eu hechel yn galw am gynnydd cyfatebol ym mhellter y ddau gorff oddi wrth ei gilydd.

Felly, os awn yn ôl mewn dychymyg rai miliynau o flynyddoedd, cawn y ddaear a'r lleuad lawer yn agosach at ei gilydd, a'r ddaear yn troi ar ei hechel yn llawer cyflymach. Ac os awn yn ôl yn ddigon pell, cawn y ddau gorff yn ffurfio un belen fawr; a chyfrif y seryddwyr fod y ddaear yr adeg honno yn troi ar ei hechel yn yr ysbaid byr o bedair awr. (Hynny yw, pedair o'n horiau presennol.)

Ond beth a barodd i'r ddaear ymrannu'n ddwy, a thrwy hyn eni'r lleuad? Gallesid tybio, ar yr olwg gyntaf, mai'r haul a dynnodd delpyn mawr allan ohoni