Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"curo," yn newid ei ffurf o fod yn hirgrwn mewn un cyfeiriad i fod yn hirgrwn mewn cyfeiriad arall, ac felly yn ôl a blaen yn rheolaidd. Cyfrif seryddwyr fod yr ysgogiadau-y "curiadau" hyn-yn dilyn ei gilydd yn rheolaidd bob dwy awr. Ar y dechrau, ni fyddai'r ysgogiadau yn ddigon grymus i beryglu cyflwr y belen. Ond beth petai rhy w rym ychwanegol yn dechrau gweithio arni nes peri i'r cynyrfiadau gynyddu'n barhaus? Cawn y grym hwn yng ngwaith yr haul yn codi teitiau ar y ddaear. Gan fod y ddaear yn troi ar ei hechel mewn pedair awr, y mae'n eglur fod y teitiau yn dilyn ei gilydd bob dwy awr. Dyma fel y gweithia'r cyd-ddigwydd hwn: Y mae ysgogiadau naturiol y belen yn cymryd dwy awr a chynyrfiadau rheolaidd y teitiau hefyd yn digwydd bob dwy awr. O ganlyniad, aeth yr ysgogiadau yn fwy grymus a mawreddog o ddydd i ddydd, nes o'r diwedd y methodd y belen ddal y straen. Ymrannodd yn ddwy, a'r rhan leiaf yw'r lleuad sydd, erbyn hyn, wedi cilio oddi wrthym chwarter miliwn o filltiroedd o bellter.

Gwelir yma esiampl brydferth o egwyddor cydysgogi (resonance, sympathetic vibrations) Ceir pennod gyfan ar y mater diddorol hwn yn ddiweddarach (Pennod XII). Hwyrach y bydd eglureb seml yn y fan yma yn help i'r darllenydd ddeall y pwynt pwysig hwn.

Meddylier am gloch fawr drom ynghrog yng nghlochdy eglwys. Fe ŵyr pawb na ellir canu'r gloch trwy roi un plwc yn unig ar y rhaff. Rhaid rhoi amryw blyciadau; ychwaneg, rhaid trefnu i'r plyciadau hyn ddilyn ei gilydd yn rheolaidd i ateb i ysgogiadau naturiol y