Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gloch ar ei hechel. Trwy hynny, cynyddu a wna sigliadau'r gloch yn barhaus, nes o'r diwedd y bydd "tafod" y gloch yn taro yn ei herbyn. Yn y modd hwn, trwy ddefnyddio egwyddor cyd-ysgogi, gall plentyn bychan â'i fraich wan ganu'r gloch drymaf. Neu, os mynnir, tybier bod pwysau anferth (hanner tunnell, dyweder) ynghrog wrth raff hir. Pa fodd y gall plentyn bychan beri i'r pendil mawr hwn symud? Ychydig o effaith a gaffai ei hergwd, er iddo wthio â'i holl nerth. Ond pe byddai iddo roi hergwd fechan bob tro y mae'r pendil yn symud oddi wrtho, yn fuan iawn byddai'r pwysau'n siglo yn ôl a blaen ar draws yr ystafell.

Yn ôl yr un egwyddor hefyd drylliwyd y ddaear, a ffurfiwyd y lleuad oherwydd bod "plyciadau" rheolaidd yr haul (y teitiau) yn ateb i sigliadau naturiol y ddaear yn ei chyflwr hylifol. Digwyddodd y "trychineb" hwn yn hanes y ddaear o bymtheg cant i ddwy fil o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Dyna yn fyr, cyn belled ag y gwyddys yn awr, yw stori Geni'r Lleuad.