Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hon wedi ei ddarganfod erbyn y dydd hwnnw pan fydd angen dyn yn galw amdano.

Gwelir felly na ddywedwyd yr holl wirionedd pan ddywedwyd bod mater wedi ei adeiladu o ddau beth, sef protonau ac electronau. Gadawyd allan beth tra phwysig, sef ynni. Yr electronau a'r protonau yw'r priddfeini, a'r ynni yw'r morter, ac yn yr adeilad cywrain hwn y mae'r morter yn llawn mor bwysig â'r priddfeini.

Dechrau a Diwedd Mater

Dywedwyd yn un o'r penodau o'r blaen na ellir dinistrio mater, hynny yw, na ellir ei ddifodi. Teg yw dywedyd bod darganfyddiadau'r pum mlynedd diwethaf yn tueddu rhai gwyddonwyr o fri, megis Eddington a Jeans, i gredu nad yw hyn yn llythrennol wir. Coleddant hwy'r syniad newydd hwn trwy eu gwaith yn chwilio am eglurhad ar barhad gwres yr haul am gynifer o filiynau o flynyddoedd. Y mae hwn yn hen gwestiwn, ac ymddengys nad oes esboniad boddhaol arno ond trwy gredu bod y protonau a'r electronau yng nghrombil yr haul, oherwydd y gwres angerddol sydd yno, yn taro yn erbyn ei gilydd gyda'r fath egni nes difodi ei gilydd, a'u hynni cynhenid yn troi'n ynni pelydrau gwres a goleuni. Yn ôl y ddamcaniaeth hon y mae pwysau'r haul yn lleihau bob munud, ei sylwedd materol yn troi'n belydriad. Ac er bod yr haul, yn ôl y syniadau uchod, yn colli pwysau yn ôl 360,000 o filiynau o dunelli bob dydd (!), mor enfawr yw ei faintioli a'i bwysau fel y gall fforddio gwneud hyn am filiynau lawer o flynyddoedd.