Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfrif am y ffaith adnabyddus na chlywir sŵn y ffrwydriad yn hollol yr un foment ag y gwelir y fflach yn ymsaethu o enau'r gwn, pan fôm dipyn o bellter oddi wrtho. Dyna hefyd yr esboniad ar y ffaith fod ysbaid byr o amser rhwng fflach y fellten a chlec y daran.

Deuwn i ben y bennod ragarweiniol hon trwy bwysleisio'r ffaith fod pob peth sydd yn anfon allan donnau sŵn yn ysgogi, yn siglo, yn crynu. Sylwn ar dant telyn ar ôl ei daro. Tra clywir ei sain, gwelir â'r llygad noeth fod y llinyn yn ysgogi'n gyflym o un ochr i'r llall. Ni raid ond cyffwrdd ag ef â'r bŷs ac felly atal ei ysgogiadau i brofi mai canlyniad uniongyrchol ei symudiadau yw'r sain hyfryd a glywir yn dylifo oddi wrtho. Ni raid ychwaith ond gosod blaen y tafod neu'r dannedd ar seinfforch neu ar ymylon cloch pan fo'n seinio i ganfod fod pigau'r fforch ac ymylon y gloch yn ysgogi'n gyflym. A'r un modd os delir y llaw wrth enau pibell fawr organ pan fo'n seinio, gellir canfod yn rhwydd fod yr awyr o'i mewn yn ysgogi'n rymus.