Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ewch ar eich pen eich hun at yr organ mewn eglwys wag, tynnwch allan yr holl stopiau a threfnwch rywbeth i bwyso i lawr yr holl nodau; y canlyniad fydd y sŵn mwyaf byddarol. Yna ewch allan o'r adeilad gan ei adael yn wag fel o'r blaen. Amdanoch chwi, fe glywch sŵn yr organ, ond oddi mewn i'r adeilad ei hun nid oes ond distawrwydd perffaith. Y mae'r awyr yn y pibellau yn ysgogi, ac y mae'r awyr yn yr adeilad yn trosglwyddo'r cynyrfiadau hyn i bob cyfeiriad, ond nid ydynt yn troi'n sŵn hyd nes y cyrhaeddant yr offeryn byw (y glust) sydd wedi ei chynllunio i dderbyn a dehongli'r cynyrfiadau hyn.

Yr ydym wedi ymdrin braidd yn helaeth â'r mater oherwydd diddordeb y cwestiwn ei hun, a hefyd oherwydd y cyfleustra a roddir drwy'r ymresymiad i bwysleisio natur sŵn a'r modd y cynhyrchir ac y trosglwyddir ef.

Trown ein sylw yn awr at fater arall. Fe ddywedwyd yn y bennod o'r blaen fod tonnau sŵn yn teithio trwy'r awyr mor gyflym â chwarter milltir mewn eiliad. Gofynnwn a yw pob math o sŵn yn teithio yr un mor gyflym—sŵn persain tant telyn, a sŵn brawychus taran? Yr ateb yw—ydynt yn hollol yr un fath. Ac y mae i hyn ganlyniadau pwysig, oblegid hawdd yw dychmygu beth a allasai ddigwydd pe na byddai hyn yn wir. Tybier ein bod yn un pen i neuadd fawr yn gwrando ar seindorf yn perfformio yn y pen arall. Pe na byddai seiniau'r gwahanol offerynnau—"y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, y symphon, a phob rhyw gerdd "-yn cyd-deithio yn hollol â'i gilydd, yna (serch i'r cerddorion gyd-chwarae yn berffaith) ni fuasai'r gwahanol seiniau yn cyrraedd cwr pellaf yr adeilad yn hollol yr un pryd ac y mae'n eglur mai