Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X I

NATUR SAIN

Ymysg pethau eraill, galwyd sylw yn y bennod o'r blaen at gywreinrwydd nodedig y glust, a'r gallu rhyfedd sydd ganddi i dderbyn tonnau sŵn a'u dehongli fel sain soniarus neu dwrw anhyfryd. Bwriadwn yn y bennod hon edrych yn fwy manwl i natur sain berseiniol ac i rai o'r egwyddorion a orwedd dan gyfansoddiad nodyn cerddorol.

Arbrawf syml a deifl ffrwd o oleuni ar y materion yma yw hwn. Cymryd olwyn gocos debyg i'r rhai a geir mewn cloc a threfnu i'w throi yn gyflym ar ei hechel. Gosod yn awr gerdyn tenau i gyffwrdd yn ysgafn â dannedd yr olwyn, a dechrau ei throi yn araf deg. Clywir cyfres o guriadau yn dilyn ei gilydd yn glir a rheolaidd. O barhau i droi'r olwyn yn gyflymach, gyflymach, fe sylwir bod yr ysbaid byr rhwng y curiadau yn graddol leihau, ac yn fuan y maent megis yn ymdoddi i'w gilydd. Ni ellir mwyach glywed y curiadau unigol—ond clywir sain neu nodyn o gywair tra isel. Fe ddigwydd hyn pan fo cyflymder yr olwyn yn gyfryw ag i gynhyrchu tua 250 guriadau mewn eiliad. Trwy barhau i gyflymu troadau'r olwyn, gellir dangos yn rhwydd fod cywair y sain yn graddol esgyn, a gellir yn y modd hwn, trwy droi'r olwyn yn gyflym, gynhyrchu nodyn o gywair mor uchel fel mai gwich anhyfryd ac ansoniarus a glywir gan y glust.