Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

27, a'r nodyn uchaf yn y trebl (A) gan tua 3,500. Yn nodyn uchaf y piccolo ceir tua 4,700 o donnau mewn eiliad. Y tu hwnt i'r mynychder olaf hwn y mae'r nodyn yn rhy fain a gwichlyd i effeithio'n swynol ar y glust, a gellir dywedyd bod holl seiniau cerddoriaeth yn gorwedd rhwng y terfynau o 25 i 5,000 o guriadau mewn eiliad.

Diddorol hefyd yw'r rhestr ganlynol (a roddir gan Blaserna) o derfynau cyffredin lleisiau dynion a merched:

Bass o E = 82 i D = 293
Baritôn o F = 87 i F# = 370
Tenor o A = 109 i A = 435
Contralto o E = 164 i F = 696
Mezzo o F = 174 i A = 870
Soprano o A = 218 i C = 1044

Dyma beth a ddaeth i'm sylw rai blynyddoedd yn ôl, ac sydd yn enghraifft dda o'r bedwaredd egwyddor a roddwyd. Ar ddiwrnod tesog yn yr haf, yr oeddwn yn cyd-gerdded â hen ŵr ar draws cae yn ymyl Borth y Gest, ger Porthmadog. Ni allwn lai na sylwi bod y ceiliogod rhedyn mewn hwyl fawr ac yn llenwi'r awyrgylch â'u gwichiadau aflafar. Ebe fi: "Onid yw'r creaduriaid bach yma bron â byddaru dyn? " Atebodd yr hen ŵr, "Pa greaduriaid?" " Wel, y ceiliogod rhedyn yma sydd wrth y cannoedd o'n cwmpas. Mae eu sŵn yn llenwi'r awyr. "Er fy syndod deëllais fod fy nghydymaith yn hollol fyddar i'r sŵn hwn. Yr oedd cywair eu nodyn yn rhy uchel i fod o fewn terfynau ei glyw ef er bod ei glyw yn