Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chaniatâ gofod i mi geisio dilyn hanes datblygiad y raddfa gerddorol gyffredin. Yr hyn y mae arnaf eisiau ei egluro a'i bwysleisio ynglŷn â hi yw: Allan o'r miloedd gwahanol nodau hynny y gallesid eu gosod o fewn cylch yr "wythfed " (octave) ni ddewisir yn naturiol gan y glust ond yr ychydig nodau hynny sydd yn dal perthynas syml â'i gilydd o ran rhif eu tonnau.

Er gweled ystyr hyn yn fwy eglur, sylwer ar y ffeithiau a ganlyn. (Y mae'r darllenydd eisoes yn deall bod cywair pob nodyn yn dibynnu ar fynychder ei donnau; po fwyaf o donnau mewn eiliad a gynhyrchir gan yr offeryn, uchaf fydd cywair y sain.) Yn awr, y naid (interval) symlaf yn y raddfa yw'r wythfed, ac fe welir y berthynas rhwng y ddau nodyn wrth gofio bod dyblu nifer y tonnau yn peri i'r nodyn esgyn wythfed mewn cywair, o doh i doh' dyweder. A'r un modd trwy amlhau mynychder yr ysgogiadau yn ôl y cyfartaledd 3/2, esgyn y sain drwy'r naid a elwir y pumed, sef o doh i soh. Ar ôl hyn o eglurhad, gall y darllenydd ddeall yn rhwydd ystyr y rhestr ganlynol:

Sylwer mai perthynasau syml (simple ratios) ydynt oll. Rhai syml fel hyn yn unig y gall y glust eu goddef. Pe byddai'r berthynas rhwng y nodau heb fod yn syml, megis 53/37 neu 69/50, yna anhyfryd i'r glust ac annerbyniol iawn ganddi fyddai naid o'r fath.