Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pwysig hefyd yw sylwi bod y nodau hynny sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r cytgord mwyaf swynol, sef d, m, s, d' yn perthyn i'w gilydd o ran rhif eu tonnau yn ôl y ffigurau syml 4 : 5 : 6 : 8.

Yr un modd yn hollol ag y mae symlrwydd a chymesuredd mewn adeiladwaith ac arluniaeth yn apelio at y llygad ac yn ei foddhau, felly hefyd y seiniau hynny sydd yn dal perthynas syml â'i gilydd o ran mynychder y tonnau a rydd y mwynhad llawnaf i'r glust.

Tybiwn, unwaith eto, fod y nodyn isaf yn y raddfa— y cyweirnod doh yn cael ei gynhyrchu gan dant sydd yn ysgogi dyweder 240 o weithiau mewn eiliad. Darlunir gan y rhestr a ganlyn rif yr ysgogiadau sy'n nodweddu'r seiniau eraill yn y raddfa.

Gwêl y darllenydd fod y rhestr hon yn hollol gyson â'r un a roddwyd yn flaenorol. Sylwer, er enghraifft, fod

s/d = 360/240 = 3/2

fel y dylai fod. A'r un modd

d'/d = 480/240 = 2/1

ac felly ymlaen.

Yn awr, gofidus gennyf orfod dywedyd, er mai'r raddfa uchod yw'r un sydd yn apelio'n naturiol at y glust ac er mai yn ôl hon y cân y cerddor, ac y chwery'r crythor pan fo heb gyfeilydd gyda'r piano, nid hon yn hollol yw'r raddfa a geir ar y piano ac ar yr organ ac offerynnau nodol (keyed) eraill. Oblegid er mwyn amrywiaeth