Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae dernyn o gerddoriaeth yn cynnwys nifer o drawsgyweiriadau. Er mwyn caniatáu gwneuthur y trawsgyweiriadau hyn yn ôl y raddfa naturiol (true intonation) golygai hynny fod i'r piano ac i'r organ gannoedd o wahanol nodau (keys) o fewn eu cylch presennol. Amhosibl fyddai chwarae offerynnau o'r fath. Rhaid rhoi heibio'r raddfa naturiol a derbyn un "annaturiol" a chelfyddydol. Rhennir yr octave yn ddeuddeg rhan, y cwbl yr un faint. Gelwir y raddfa hon the equal temperament scale a hon a geir ar y piano a'r organ.

Darlunir y prif nodau ynddi fel hyn:

Y mae'r symlrwydd perffaith sydd yn nodweddu'r raddfa naturiol yn absennol o hon. Ond yn ffodus, nid yw'r gwahaniaeth rhyngddynt yn fawr. Erbyn hyn y mae ein clustiau wedi cynefino â'r raddfa gelfyddydol "annaturiol" hon, ac nid oes braidd neb yn sylweddoli yr hyn a gollwyd mewn gwir a pherffaith gytgord pan roddwyd o'r neilltu y raddfa naturiol.

Yr ydym eisoes wedi dywedyd nad yw'r glust yn mwynhau trefniant y nodau mewn melodi ond pan fo'r nodau yn perthyn yn syml i'w gilydd o ran mynychder y tonnau a'u cyfansodda. Nid oes eglurhad boddhaol ar hyn, ond y mae eglurhad boddhaol wedi ei roi gan Helmholtz ar fod rhai nodau, o'u seinio gyda'i gilydd (C ac G, neu C ac E) yn ffurfio cytgord swynol i'r glust, tra y mae nodau eraill (C a C#) gyda'i gilydd yn anhyfryd iawn i wrando arnynt. Dyma'r eglurhad: