Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tybier bod dwy seinfforch yn hollol gytsain yn cael eu seinio a'u dal ochr yn ochr yn ymyl y glust. Clywir sŵn hyfryd, sŵn gwastad, cyson a boddhaus. Y mae'r ddwy fforch yn parhau i gyd-ysgogi, i gyd-gerdded megis, gam a cham, gan gynorthwyo'i gilydd bob moment. Ond os caiff cywair un ohonynt ei ostwng ychydig trwy ddodi dernyn o gŵyr ar ei phigau, sŵn anhyfryd a glywir ar y ddwy fforch. Y mae'r sain megis yn crynu, weithiau'n gryf, weithiau'n wan. Y rheswm am hyn yw: Tybiwn fod un fforch (C#) yn ysgogi 500 o weithiau mewn eiliad, a'r llall (C) 480. Y mae'r gyntaf, felly, yn ennill ar yr ail ugain o ysgogiadau bob eiliad. Eglur gan hynny yw bod pigau'r ffyrch ar rai adegau yn symud yn yr un modd (i gyfeiriad ei gilydd, dyweder), tra ar adegau eraill y maent yn ysgogi mewn modd gwrthgyferbyniol—pigau un fforch yn agosáu, a phigau'r llall yn pellhau. Mewn geiriau eraill, y mae'r seinffyrch ar rai adegau yn cryfhau sŵn ei gilydd, ond ar adegau eraill yn gwanhau ei gilydd. Y mae'n amlwg, gan hynny, y bydd y sŵn weithiau yn gryf ac weithiau yn wan, yn crynu neu yn curo ugain o weithiau bob eiliad. Yn awr, yn ôl Helmholtz, y mae'r curiadau (beats) hyn, y cryndod yn nerth y sŵn, yn anhyfryd iawn i'r glust, ac oherwydd hynny yn cynhyrchu yr hyn a elwir anghytgord (dissonance). Nid oes amheuaeth nad yw'r eglurhad hwn yn gywir.

Dychmygaf glywed y darllenydd yn gofyn yn awr: Onid yw effaith cyffelyb yn digwydd pan seinier doh (480) a soh (720)? Oni fydd nerth y sŵn yn crynu 720—480, sef 240 o weithiau bob eiliad? Atebwn, y