Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae'n ysgogi'n gyflymach a'r cloc yn ennill. Estyn hyd y pendil, ac y mae'r cloc yn colli. Ond paham nad yw ysgogiadau pendil y cloc yn graddol leihau nes peidio'n llwyr fel y gwnânt gyda'r pendil syml y cyfeiriwyd ato eisoes? Am fod dyfais gywrain yn y cloc, trwy'r hon y mae'r pendil yn cael hergwd fechan yn ystod pob ysgogiad, ddigon i wrthweithio effaith rhwbiad yr awyr. Daw'r grym hwn i fod trwy gyfrwng disgyn y pwysau neu nerth y sbring. Felly, er bod y pendil yn gwneuthur ei ysgogiadau naturiol nid ysgogiadau rhydd ydynt ond ysgogiadau yn cael eu cynnal. Fel esiamplau o'r math yma o ysgogiadau mewn cerddoriaeth gellir nodi:

(a) Y crwth: Symudiad y bwa ar draws y tant sydd yn cynnal sigliadau'r llinyn.
(b) Pibell organ: Cynhyrchir y sŵn gan ysgogiadau yr awyr oddi mewn i'r bibell; ond yr hyn sydd yn cynnal y sigliadau yw'r llif o awyr o'r fegin yn taro yn erbyn "gwefus" finiog y bibell. Y foment y paid y llif awyr, yr un foment paid y sŵn.
(c) Y llais dynol: Llif o awyr o'r ysgyfaint sydd yn cynhyrchu ac yn cynnal ysgogiadau'r llinynnau llais.

(3) Trown eto at ein pendil syml a gafael yn y belen â'r llaw. Yna ei hysgwyd ôl a blaen o un ochr i'r llall yn rheolaidd, yn gyflym neu yn ara' deg fel y dymuner. Sylwer bod mynychder yr ysgogiadau yn dibynnu arnom ni ac nid ar y pendil ei hun. Y mae'r pendil yn cael ei orfodi i ysgogi yn unol â'n dymuniad ni. Nid ysgogiadau rhydd ydynt yn awr ond ysgogiadau gorfod.