Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIII

"LLIW" SAIN

Bwriadwn yn y bennod hon ddywedyd ychydig am y deddfau sydd yn rheoli seiniau tannau'r delyn, y piano a'r organ. Ceisiwn ateb hefyd y cwestiwn diddorol— pa fodd y gellir dywedyd pa offeryn sydd yn cael ei chwarae er nad ydym yn ei weled.

Dechreuwn gyda'r tannau. Dibynna sain tant telyn ar dri pheth: (1) hyd y llinyn, (2) ei dyndra, (3) ei braffter. Syml iawn yw'r cysylltiad rhwng hyd y llinyn a chyflymder ei ysgogiadau. Byrhaer y llinyn i hanner ei hyd gwreiddiol, ac y mae'n siglo ddwywaith yn gyflymach nag o'r blaen. Ceir felly nodyn wythfed yn uwch na'r nodyn gwreiddiol. Byrhaer y llinyn i'r drydedd ran o'i hyd gwreiddiol, ac y mae'n ysgogi dair gwaith yn gyflymach, ac felly ymlaen. Mewn gair, po fyrraf y llinyn, cyflymaf y sigla ac uchaf yw cywair ei sain. A'r un modd hefyd, wrth dynhau'r tant, fe esgyn cywair ei nodyn. I'r gwrthwyneb, po fwyaf fo pwysau a phraffter y tant, isaf fydd ei gywair. Gwelir esiampl dda o weithiad y deddfau hyn yn y piano. Y mae'r tannau yn y trebl yn fyrrach, yn dynnach, ac yn feinach o lawer na'r llinynnau yn y bas. Daw'r un peth i'r golwg hefyd yn y delyn. Yn y crwth y mae'r pedwar llinyn oll o'r un hyd, er nad ydynt oll mor dynn nac mor braff â'i gilydd, ac y mae'n hysbys i bawb fod y crythor yn cael ugeiniau o wahanol seiniau allan o'r pedwar tant hyn trwy newid â bysedd ei law chwith hyd y rhan o'r llinyn sydd yn ysgogi.