Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhaid sylweddoli i ddechrau nad un sain seml a phur yw nodyn cerdd yn gyffredin, ond yn hytrach sain gymysg yw. Er mwyn hwyluso'r eglurhad, cyfyngwn ein sylw i ddechrau i un o nodau'r piano, C (256), sef y C yng nghanol y rhestr. O daro'r nodyn hwn â'r bys, dechreua'r llinyn ysgogi'n gyflym o un ochr i'r llall 256 o weithiau mewn eiliad. Wrth wneuthur hyn, ysgoga'r llinyn fel un darn. Ond yn ychwaneg na hyn—y mae'r llinyn hefyd yr un pryd yn ysgogi yn ddau ddarn, gan gynhyrchu sain o fynychder 2 x 256, sef 512. Hefyd yn dri darn, gan gynhyrchu sain o fynychter 3 x 256, sef 768, ac felly ymlaen. (Hwyrach y bydd atgoffa'r darllenydd o'r ffaith y gwelir crychdonnau (ripples) yn chwarae ar donnau mawr y môr, yn help iddo ddeall hyn.) Gan hynny, nid sain bur a seml o fynychder 256 yn unig yw'r sain a geir o'r llinyn, ond sain gymysg yn cynnwys cyfres o wahanol seiniau ac y mae mynychder eu sigliadau yn dal y perthnasau canlynol: 1 : 2: 3: 4: 5: 6, etc.

Gelwir y gyfres hon y gyfres harmoniaidd a'r gwahanol nodau ynddi, y cytseiniaid (harmonics neu overtones) Sylwer hefyd fod yr holl nodau hyn (o leiaf cyn belled â'r chweched) mewn cytgord â'i gilydd, oblegid yn y nodyn C ceir y gyfres C, C', G', C'', E'', G'' . . . Nid yw'r glust yn gyffredin yn gwrando ond yn unig ar y nodyn isaf yn y rhestr, y sylfaen gan mai hwn yw'r cryfaf o lawer. Serch hynny, y mae'r nodau eraill yn bresennol, a phresenoldeb y nodau ychwanegol hyn sydd yn rhoi i'r sain y timbre arbennig a berthyn iddo. Hefyd, po gryfaf a lluosocaf y nodau eraill—y cytseiniaid,— cyfoethocaf a choethaf fydd y sain.