Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn awr, y mae cryfder cymharol y gwahanol gytseiniaid yn dibynnu ar amryw bethau. Yn eu mysg (i) ffurf a chaledwch y morthwyl â'r hwn y trewir y tant; (2) y pellter o ben y llinyn lle y trewir ef; (3) defnydd y llinyn, ai dur ai gyt yw; (4) y moddion a ddefnyddir i ysgogi'r tant—pa un ai trwy ei daro â "morthwyl" (fel yn y piano), ai trwy ei blicio â'r bŷs (fel yn y delyn), ai trwy ei rwbio â bwa (fel yn y crwth). Gwelir yn awr yn eglur y rheswm paham y mae'r fath wahaniaeth rhwng "lliw" seiniau'r piano, y crwth a'r delyn—y cytseiniaid sydd yn wahanol iawn yn y gwahanol offerynnau.

Nid nodau pur a syml ychwaith yw eiddo pibelli'r organ. Ynddynt hwythau hefyd ceir y cytseiniaid, ond nid yw cytseiniaid pibell agored yr un â'r rhai a geir mewn pibell wedi ei chau. Er enghraifft, yn yr olaf ni cheir ond y rhestr 1 : 3 : 5 : 7 - - - - etc., tra yn y bibell agored y ceir y rhestr yn gyfan, 1 : 2 : 3 : 4 : 5 : 6 : 7 - - - - etc. Dyma felly y rheswm paham y mae nodyn y bibell agored yn gyfoethocach ac yn fwy "diddorol" i'r glust na sain y bibell sy wedi ei chau. A'r un modd, y rheswm fod lleisiau gwahanol bersonau (o'r un rhyw, wrth gwrs) yn gwahaniaethu cymaint yw fod y cytseiniaid yn wahanol ynddynt. Na thybied y darllenydd mai damcaniaeth noeth yw'r eglurhad uchod. Fe ellir profi'r gosodiad mai cymysgedd yw nodyn cerdd o nifer o seiniau gwahanol. Awgrymwn i'r darllenydd wneuthur yr arbrawf canlynol:

Mynd at y piano a phwyso i lawr yn ofalus (heb beri iddo seinio) y nodyn C' yn y trebl. Yna taro yn gryf amryw weithiau y nodyn C wythfed yn is, ac yna