pwyntus, a golwg raenus arnynt. A pherthyn i'r dosbarth yma yr oedd Robert Dafydd. Ni wyddai beth oedd ymatal oddiwrth y diodydd hyn er mwyn cydwybod, nac er mwyn y brawd gwan. Ond gadawai i natur gael ei ffordd, ac yn fynych yfai yn lled helaeth, er nad i ormodedd. Trwy ei fod yn ddyn cryf yfai yn fynych ddigon i feddwi rhai gweiniaid, a heb i hyny fènu dim arno ef. Daeth cwyn ato unwaith fod brawd yn eglwys Brynengan wedi meddwi. Pan darawodd arno yn ffair Fourcrosses, galwodd ef o'r neilldu i ystafell neillduedig mewn tafarndy, er mwyn ei geryddu. Wedi eistedd i lawr galwasant am lasiad o gwrw bob un. fel yr oedd yr ymddiddan yn myn'd yn mlaen, galwai y ddau am ychwaneg. Ond cyn hir gwelai Robert Dafydd fod y ddiod yn effeithio ar ei gyfaill, a bod ei lygaid yn dechreu llonyddu, pan nad oedd un argoel o hyny arno ef, ac meddai wrtho: "Yr hen g[i]âth, ai hyna ddali di?" Swniai efe yr c a'r g fel pobl Sir Feirionydd, gan mai un oddiyno ydoedd o'i ddechreuad.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1747, mewn lle o'r enw Cwmbychan, yn ardal Nantmor, ger Beddgelert, rhwng Pont Aberglaslyn a chapel Peniel. Enw ei dad oedd Dafydd Prichard, gwehydd, yr hwn a fu farw pan nad oedd efe ond plentyn blwydd oed. Bu gyda'i fam nes yr oedd tua 12 neu 13 oed; ar ol hyny aeth at ewythr iddo frawd ei dad. Ac yn gwasanaethu gyda'i ewythr y bu, hyd nes y bu raid iddo ymadael, gan y gwrthwynebiad a deimlid at ei grefydd. Ni chafodd ddim manteision crefyddol yn ei ieuenctid. Nid oedd pregethu yr Efengyl yn yr holl fro. Nid oedd llan y plwyf, Beddgelert, yn mhell oddiwrtho; ond nid oedd hyfrydlais yr Efengyl byth yn seinio ynddi. Tyfodd i fyny yn hollol dywyll am bethau crefydd, ac yn hollol