Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anystyriol am ei fater tragwyddol. Ymroddai i chwareuon a champau ofer a llygredig ei oes, ac ni cheisiai neb ei atal na'i hyfforddi mewn pethau gwell.

Pan oedd tuag 21 mlwydd oed, daeth gradd o gyfnewidiad ar ei feddwl mewn perthynas i grefydd. Yr un a fu yn foddion yr ysgogiad hwn oedd Sion Robert Lewis, yr Hen Almanaciwr o Gaergybi, yr hwn a fu am dymor o'i fywyd yn pregethu gyda'r Methodistiaid, er nad oedd felly i'w ddiwedd. Trwy bregeth y gwr hwnw, daeth i ddechreu meddwl fod rhyw wahaniaeth rhyngddo a'r anifail a ddifethir, a bod ganddo achos rhyngddo â Duw fel creadur cyfrifol. Tua'r un adeg daeth Robert Jones, Rhoslan, i gadw un o ysgolion Madam Bevan i Feddgelert. Parhad oedd yr ysgolion hyn o ysgolion yr enwog Barchedig Griffith Jones, Llanddowror. Yr oedd y gwr mawr hwnw wedi darparu Catecism helaeth iawn ar holl athrawiaethau crefydd, yr hwn oedd i gael ei holi bob dydd yn ei holl ysgolion gan yr athrawon. Gwnai Robert Jones hyn, gellid meddwl, gydag arddeliad. Clywodd Robert Dafydd am yr holwyddori, a chododd awydd ynddo i fyned i wrando, er mwyn deall a chofio rhywbeth am y cyfryw bethau. Newydd a dieithr oedd egwyddorion cyntaf crefydd iddo, a difyr oedd ganddo glywed Robert Jones yn holi o'r Catecism yn ei ddull hapus a buddiol ei hun. Ond cyn hir daeth y pethau yn rhywbeth mwy na difyrwch iddo. Daeth i ddeall fod a wnelai y gwirioneddau a glywai âg ef ei hun. Bu hyn yn foddion i'w ddwyn i weled graddau o'i bechaduruswydd a'i berygl, ac i'w argyhoeddi o'i sefyllfa euog a pheryglus. Daeth i deimlo trwy brofiad beth oedd trallod ac ing enaid. "Gofidiau uffern a'i daliasant; ing a blinder a gafodd." Yr oedd