rhywle o fewn cyrhaedd, fe fyddai hyny yn hysbys mae yn bur sier i Robert Jones, ac arferai yntau hysbysu i Robert Dafydd, trwy anfon cenadwri ar bapyr iddo. Ai Robert Dafydd gan hyny i wrando, yn mhell ac yn agos. Yr oedd ganddo gyfaill y pryd hwnw o'r enw Owen Thomas. Byddai y ddau yn myned gyda'u gilydd i Frynengan i wrando, a dychwelent ar hyd y llwybr anhygyrch, ar hyd y nos. Ond yr oedd hyny yn fwy nag a allai ei ewythr a'i deulu ei oddef, a bu raid iddo ymadael oddiwrthynt. Mewn canlyniad i hyny fe aeth i ardal Brynengan i fyw, ac yno y bu o hyny allan; ac aeth Owen Thomas hefyd i Foni aros. Ryw bryd tua'r adeg yma, pan yr oedd trallod ei feddwl yn parhau, a'r ymosodiad arno oddiallan yn fawr, y gwelodd y nefoedd yn dda ddryllio ei lyffetheiriau a chwalu ei ofnau. Y gŵr a ddefnyddiwyd yn foddion i hyn oedd y pregethwr nerthol hwnw, Dafydd Morris, Lledrod, Sir Aberteifi. Testyn y gŵr enwog oedd y gair hwnw, "Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch am dano ef," &c. Gollyngwyd ei enaid yn rhydd trwy yr odfa hon, a rhoddwyd yn ei "enau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni." Mae yn bur debyg i hyn gymeryd lle yn y flwyddyn 1771. Bu Dafydd Morris ar daith yn sir Gaernarfon yn y flwyddyn hono, a phregethodd ar y daith hono yn Mrynengan ac yn Mrynygadfa, lle arall heb fod yn mhell o Frynengan yn nghyfeiriad Llanaelhaiarn. Yn Mrynengan y treuliodd Robert Dafydd y gweddill o'i oes, yr hyn oedd oddeutu tair blynedd a thriugain. Bu yn dyst o lawer o bethau rhyfedd yn y llanerch gysegredig hon, yn ystod y tymhor hirfaith hwnw. Clywodd enwogion penaf Cymru yn pregethu yno,—megis Daniel Rowland; Williams, Pantycelyn; Peter Williams; Jones, Llangan; Mr. Charles, y Bala; Robert Roberts, Clynog; Dafydd
Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/14
Gwedd