ac Ebenezer Morris; John Jones, Edeyrn; John Elias; Henry Rees; John Jones, Talsarn; a lliaws mawr o enwogion ereill. Bu yn yr un eglwys yma am dymor gyda rhai o ddynion goreu Cymru. Bu yma gyda'r seraff tanllyd hwnw, Robert Roberts, Clynnog, am tua phymtheng mlynedd. Efallai iddo sylwi ar y llencyn difrifol, John Elias, yr hwn a ddeuai yma yn fynych, ac a yfai ei ysbrydoliaeth o awyrgylch grefyddol y lle. Yr oedd yma cyn geni Richard Jones, y Wern, a gwelodd ef yn tyfu nes myned yn gedrwydden gref, a llawenychai yn ei gynydd. Yr oedd yn gyfaill mawr iddo. Bu yma am dymor gyda Robert Jones, Rhoslan; John Pierce, Llanidloes; John Roberts, Llangwm; Evan Richardson, Caernarfon; Moses Jones, a rhai pregethwyr ereill. Gwelodd Dewi Wyn yn gwrando yn y lle lawer gwaith. Digon tebyg mai efe a dderbyniodd Pedr Fardd yn aelod eglwysig, ac yn ddiweddarach na hyny, Nicander, a John Owen, Ty'nllwyn. O na buasai ryw binysgrifenydd buan wedi ysgrifenu ei adgofion i lawr. Buasent yn werth eu hargraffu gyda llythrenau o aur.