PENNOD II.
BRYNENGAN: ARDAL AC EGLWYS FABWYSIEDIG ROBERT DAFYDD.
Nid plwyf ydyw.—Mynydd y Cenin.—Hynafiaethau yr ardal.—Cytiau'r Gwyddelod."—Mynachdy-gwyn a Mynachdy-du.—Hen arch hynod.—Cysylltiad y Puritaniaid a'r Anghydffurwyr â'r ardal. -"Anerchiad trigolion sir Gaernarfon at Richard Cromwell."—Pwy lawnododd yr anerchiad?—John Jones, y gŵr a roddodd brydles y capel.—Yr anhawsder i'w chael.—Enwau yr ymddiriedolwyr cyntaf
FEL y cyfeiriwyd yn y bennod o'r blaen, blinderau teuluaidd o achos ei grefydd a barodd i Robert Dafydd ymadael â'i ardal enedigol. A hyny, yn nghyda'r breintiau crefyddol oedd i'w cael yn ardal Brynengan, a barodd iddo ymsefydlu yn y lle diweddaf. Ac nis gallasai gael ardal fwy cydnaws a'i ysbryd yn yr holl wlad. A chredwn nad annyddorol fydd gan y darllenydd gael rhyw gymaint o hanes yr ardal a'r eglwys ddyddorol hon.
Nid enw ar blwyf na phentref ydyw Brynengan. Nid oes dŷ o fewn nemawr lai na haner milldir i'r capel, oddigerth amaethdy Brynengan. Ac oddiwrth yr amaethdy y cafodd y capel ei enw; ac oddiwrth y capel y cafodd yr ardal ei henw. Saif y capel yn mhlwyf Llangybi; ond y mae y gwrandawyr yn dyfod iddo o chwech o blwyfi, sef o Langybi, Llanarmon, Llanystumdwy, Llanfihangel-yPennant, Clynnog, a Llanaelhaiarn. Saif wrth odre mynydd y Cenin, yr hwn sydd ar y tu gogleddol iddo. Nid yw yn hawdd gwybod paham y galwyd y mynydd wrth yr enw hwnw. Efallai iddo gael ei alw felly am mai dyma lysieuyn nodweddiadol y Cymry; neu am fod y llysieuyn hwnw