Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gerllaw iddo y mae maes a elwir Manerch-Maneirch. Arwydda hyn fod mynwent wedi bod gerllaw y lle ar ryw adeg. Yr oedd ty hefyd ar y tir hyd yn bur ddiweddar, a elwid Maes-mriog neu friog, yr hwn air sydd o darddiad eglwysig neu fynachaidd. Saif Mynachdy-bach yn mhlwyf Llangybi; a bu yma hefyd fynachlog ar ryw adeg, mae yn bur bosibl, ac yn dal cysylltiad âg eglwys Llangybi, ac o urdd y mynachod duon. Mae maes gerllaw y ty hwn hefyd a elwir hyd heddyw yn "Cae y fynwent." Yr oedd y sefydliadau hyn yn aros hyd adeg y Diwygiad Protestanaidd, mae yn bur debyg, yr hwn a sefydlwyd yn Lloegr yn y flwyddyn 1537. Dinystriwyd yr holl fynachlogydd y pryd hwnw, trwy orchymyn y brenin Harri yr Wythfed, a digon tebyg fod y mynachdai hyn yn aros hyd yr adeg hon, ac iddynt gael eu dinystrio yn adeg y dinystr cyffredinol.

Yn y flwyddyn 1893, doed o hyd i rywbeth tebyg i arch ar dir Ynyscreua, yn yr ardal hon. Caed ef wrth agor ffos ddofn mewn mawnog, ac yr oedd yn ddwfniawn yn y ddaear. Ni allesid myned ato, gan mor wlyb oedd y lle, ond ar dywydd sych iawn, fel yr oedd y flwyddyn hono. Nid oedd caead arno, ac felly nis gellir gwybod yn sicr pa beth oedd ei gynwys ar y dechreu. Yr oedd llawer o goed llosgedig o'i gwmpas yn mhob cyfeiriad. Y mae o wneuthuriad cadarn iawn, o dair i bedair modfedd o drwch mewn rhai manau. Ei hyd ydyw oddeutu pedair troedfedd a haner, ei led oddeutu dwy droedfedd a haner, a'i ddyfnder oddeutu dwy droedfedd. Tybir mai math o arch ydyw, ac yn cynwys gweddillion corph dynol llosgedig.[1] Caed rhai tebyg iddo

  1. Caed un yn agos i Maes-y-pandy, yn sir Feirionydd, ac yn yr un math o le, sef mewn mawnog. Barnai rhai am hwnw ei fod wedi ei osod yn y fath le, am ei fod yn cadw yn well rhag pydru.