Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eich uchelder, trigolion sir Gaernarfon, yn gosod allan nas gall goruchwyliaeth bresenol Rhagluniaeth ddwyfol, gyda golwg ar farwolaeth ei ddiweddar uchelder, ac yn trefnu eich uchelder breiniol fel ei olynydd yn llywodraethiad y cenedloedd hyn, lai na chynyrchu ynom wahanol ystyriaethau, o farn ar un llaw, yn gystal ag o drugaredd ar y llaw arall; ac am hyny, heblaw ein herfyniadau at Drefnau Ollddoeth y rhagluniaethau hyn ar iddynt beri cynydd cyfaddas ar ei ogoniant, a lles y genedl, yr ydym yn gwneyd yn hyf, trwy yr anerchiad yma o'r eiddom, i amlygu ein cydnabyddiaeth o'ch uchelder yn y llywodraeth hono, o dan ba un, fel yr oedd ei heisteddiad yn eich tad, o ddedwydd goffadwriaeth, yr oedd barn yn rhedeg fel dwfr, a chyfiawnder fel ffrwd nerthol; duwioldeb yn cael ei feithrin, a gelynion gwirionedd a heddwch yn cael eu hanghefnogi, a'r cenhedloedd hyn wedi eu gwneyd yn drigfanau uniondeb, ac yn fynydd o sancteiddrwydd. Achan ein bod yn cael fod Duw y nefoedd yn llaw yr hwn y mae calonau tywysogion) wedi gwisgo eich huchelder ag ysbryd, trwy ba un y mae wedi eich cyfaddasu i drin materion pwysig y cenhedloedd hyn, a rheoli y bobl fawr yma, yr ydym yn edrych arnom ein hunain fel o dan rwymau i erfyn ar yr Arglwydd, ar fod iddo lwyddo eich cynghorau, a'ch ymgymeriadau uchel gyda golwg ar grefydd ddiwygiedig oddicartref, a diwygiad gartref. Erfyniwn hefyd ar eich uchelder, gan ddilyn camrau eich tad, ar fod i chwi fyned ymlaen fel y dechreuodd efe, ac ateb disgwyliadau mawrion y genedl, trwy lethu heresi, coelgrefydd, halogrwydd, ac anghyfiawnder, a chefnogi y dwyfol ordeiniadau o ynadaeth a gweinidog. aeth; mewn bod yn dad i'r rhai a ofnant yr Arglwydd, ac mewn gwneyd eich person a'ch llywodraeth yn arswydus yn nghalonau eich holl bobl, trwy eich ymddangosiad fel amddiffynwr i'r dwyfol wirioneddau hyny a dueddant i ddyrchafu Crist, ac i gadw y cenhedloedd hyn mewn heddwch. Ac ar fod i'ch uchelder fyned ymlaen yn ddedwydd yn y pethau hyn y bydd i chwi gael gweddiau gwasanaethwyr ffyddlonaf eich uchelder."

Y mae yr anerchiad hwn wedi ei law-nodi gan Thomas Madryn, John Jones (gweinidog), Ellis Rowlands, Robert Jones, (gweinidog), David ap Robert; Evan Lloyd, Griffith Jones, Robert Owen, Hugh Gwynne, Richard Glynne, Owen Hughes,