priodi merch i W. Lloyd, yr Uchel Sirydd uchod. Yr oedd un o'r enw Owen Hughes yn byw yn Nhrefan, ger Llanystumdwy, yr adeg hon. A beth oedd yn fwy naturiol nag iddo ymuno â'i gymydogion i anfon yr "Anerchiad" uchod? "Hugh Gwynne" oedd o Benarth-fawr, ac un arall o hynafiaid y "gwron o Fadryn." Richard a Henry Glynne, ni a gredwn, oedd o deulu Lleuar ac Elernion. Daethant yn bleidiol i Cromwell trwy i un o brif gadfridogion ei fyddin, yr enwog Filwriad George Twistleton, briodi Mary, aeres William Glynne o Leuar. Tybiwn fod William Robert a Thomas Owen o deulu Cefnisa, a bod David Evans yn un o Evansiaid y Berthddu.[1] Cymered y darllenydd y dyfaliadau uchod am yr hyn ydynt o werth; ond cred yr ysgrifenydd fod seiliau cedyrn iddynt, a rhesymau cryfion drostynt.. Yr oedd Brynengan yn sefyll yn agos i ganol cartrefi y gwŷr enwog uchod. Ac nid damwain, ni agredwn, oedd i Frynengan, yn mhen oesoedd i ddyfod, ddyfod yn ganolbwynt dylanwadau Methodistaidd. Credwn fod marwor a thân y Puritaniaid a'r Anghydffurfwyr wedi ei gadw yn fyw ar allorau eglwysi Pwllheli a Chapel Helyg, ac i Howell Harris ddyfod heibio fel corwynt a'i chwythu yn wenfflam. Agwreichion o'r marwor hwnw a ddisgynodd yn ardal Brynengan.
Fel y cyfeirir yn mlaen, adeiladwyd y capel ar dir amaethdy Brynengan. Ac y mae y teulu sydd yn byw yno yn awr yn berthynasau i'r gwr a roddodd y tir ar y cyntaf ar brydles. Ar ddechreuad Methodistiaeth yr oedd yn anmhosibl cael tir i adeiladu capelau ar dir prif foneddigion y wlad. Ac felly y mae holl gapelau cyntaf y Methodistiaid wedi eu hadeiladu ar dir tir-feddianwyr bychain. Ac yr oedd yn rhaid adeiladu y capel yn rhywle lle
- ↑ Owen Robert oedd o deulu y Maenllwyd, ger Llangybi.