y rhoddir y naill am y llall. Clywsom un mewn lle cyhoeddus yn dweyd fwy nag unwaith mai o Lan engan y daeth Evan Richardson i Gaernarfon. Bydded hysbys fod Llanengan yn mhellach o tuag wyth milldir yn Lleyn na Phwllheli, tra y mae Brynengan yn sefyll yn agos i linell y rheilffordd sydd yn rhedeg o Afonwen i Gaernarfon, o fewn tua dwy filldir i Brynkir Station, ar y llaw aswy wrth fyned yn y cyfeiriad hwnw. Wrth edrych o'r lle diweddaf yn nghyfeiriad y gogledd-orllewin, gwelwn fynydd lled isel, tua dwy filldir oddiwrthym. Dyna fynydd y Cenin. Ymddengys fel yn rhedeg o'r gogledd i'r dehau; ac y mae capel Brynengan yn sefyll ar y pen deheuol iddo. Fel y mae ei enw yn arwyddocau, saif y capel ar dipyn o godiad tir, yn gwynebu i gyfeiriad Porthmadog, ac y mae y rhan fwyaf o gwmwd Eifionydd i'w weled o'i ddrysau. Gwael a chorsiog yw y tir o'i ddeutu mewn amryw gyfeiriadau, ac nid yw y ffyrdd ato i'w canmol. Byddai y diweddar Barch. John Owen, gynt o Dy'nllwyn, yr hwn a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn yr ardal, yn arfer dweyd fod yr hyn oedd yn fantais i Frynengan yn y dyddiau gynt, yn y blynyddoedd diweddaf wedi troi yn anfantais iddo. Cyfeiriai at y lle fel lle neillduedig, ac felly allan o gyrhaedd erlidwyr i raddau helaeth. Dyma y fan wedi'r cwbl a fu yn fath o Jerusalem i Fethodistiaid sir Gaernarfon am lawer blwyddyn, a'r lle y cyrchai y llwythau Methodistaidd i addoli.
Mae yma braidd bob ty, a chae, a chlawdd, a llanerch, yn yr ardal, wedi eu cysegru gan adgofion am ryw un hynod mewn talent a chrefydd. Hwyrach y caniateir i ni ar y cychwyn i gymeryd rhyw gipdrem frysiog ar y manau hyn cyn dyfod yn fwy manwl at hanes yr achos yn y lle. Mae y Ilwybrau neillduedig sydd yn dyfod at y capel wedi eu sangu ganoedd o weithiau gan hen grefyddwyr