gwresog yn ymddiddan am bethau ysbrydol. Mynych y cyfeiriai y diweddar Barch. Moses Jones, yn ei afiaeth wrth bregethu, at hen grefyddwyr Rhoslan yn myned at eu haner yn y corsydd, wrth gyfeirio tua chapel Brynengan. Llawer gwaith y clywyd yr awyrgylch yn adsain gan "sain cân a moliant" rhai yn dyfod o'r capel; neurai yn cynal cyfarfodydd gweddiau yn y meusydd; neu rywun â'i lestr wedi rhedeg drosodd wrth ddal cymundeb â Duw mewn rhyw gongl mewn beudy, neu yn y maes. Gwnaeth y diweddar Barch. Richard Owen gyfeiriad effeithiol at hyn unwaith, wrth bregethu mewn Cyfarfod Misol yn y lle. "Dywedir," meddai, "am Robert Roberts, Clynnog, pan y cafodd o olwg ar ei gyflwr, ei fod o'n gyffrous iawn gyda'i waith yn y caeau, ac yn gwaeddi yn anghyffredin, ac yn myned rhyngddo a'r capel yma dan waeddi, â'i ddwylaw i fyny. Ac mae'r hanes yn dweyd fod llawer o'r bechgyn hyd yr ardaloedd yma wedi eu hachub wrth glywed Robert Roberts yn gwaeddi." Yn y ty capel y bu Betti Marc yn byw, yr hen wraig hynod a fyddai yn teithio ar hyd y wlad i gynal cyfarfodydd eglwysig; ac yma y bu farw yn y flwyddyn 1801, yn 63 oed. Mewn ystafell gysylltiedig a'r ty capel y treuliodd merch foneddig o'r enw Miss James ei blynyddoedd olaf—neu fel y gelwid hi, Jenny James—yr hon a gafodd droedigaeth hynod drwy Evan Richardson. Ar ol hyny bu William Jesus yn byw yma, hen flaenor enwog iawn yn ei ddydd, yr hwn oedd yn dad i Pedr Fardd, ac yn daid i Nicander. Yr oedd yntau yn fardd medrus meddir, er nad mor enwog a'i fab a'i wŷr; oblegid dywedai ei fab am dano :
"A phrydydd hoff ei rediad
Addfwyn o hon[1] oedd fy nhad."
- ↑ Eifionydd.