Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mynachdy-gwyn, lle y bu Ysgol Sul am dros ddeugain mlynedd. Cynhelid cyfarfod gweddi yn mhob ty yn yr ardal yma bob nos Sul dros yr un tymor, a dywedir y byddai ryw eneiniad rhyfedd ar y cyfarfodydd hyny bob amser. Ar dir Tyddynmawr, yn fwy ar y chwith eto, y mae hen faen mawr, a fu yn bwlpud, meddir, i Howell Harris. Ac y mae fel pe byddai wedi ei wneyd gan natur i'r gwron hwnw; oblegid y mae o faintioli anferth. Ychydig yn fwy i'r gorllewin y mae Mynachdybach yn sefyll, lle y treuliodd y bardd enwog Robert ap Gwilym Ddu ei ddyddiau olaf, a'r lle hefyd y bu farw. Efe, fel y mae yn hysbys, oedd awdwr yr englynion godidog ar yr Iawn; Crist ger bron Pilat, a Pilat ger bron Crist; ac efe oedd awdwr yr emyn melus hwnw yn mysg ereill :

"Mae'r gwaed a redodd ar y groes
O oes i oes i'w gofio;
Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn
I ddweyd yn iawn am dano.

"'Mhen oesoedd rif y tywod mân
Ni bydd y gân ond dechreu;
Rhyw newydd wyrth o'i angeu drud
A ddaw o hyd i'r goleu."


Ychydig yn nes i'r capel yr oedd Brynbogelydd, cartref yr hen bregethwr boreuol hwnw—Richard Hughes. Ychydig a wyddys am dano; ond fel hyn y mae Williams, Pantycelyn, yn cyfeirio ato, yn ei farwnad i'r Parch. W. Davies, Castellnedd:

"Richard Hughes a welodd yno, [y nefoedd]
Deithiodd holl fynyddau maith
Arfon arw a Meirionydd,
Fflint a Dinbych lawer gwaith;
Ac amgylchoedd dir y Deheu
Gydag awel bur y nef
Fel dyn addfed i'r wlad nefol,
'Chydig cyn ei symud ef."[1]


  1. Y mae y Parch. Edward Griffith, Meifod, yn or-ŵyr iddo.