hwynt yn ymyl eu gilydd; ond anfynych y gallesid taro ar ddau mwy anhebyg. Maddeued y darllenydd i ni am y crwydriad hwn; ni feddyliasom ar y cychwyn y buasai y daith mor hir.
Cyn gorphen y bennod hon dymunem alw sylw y darllenydd at y darlun o'r capel a geir yn y llyfr. Wrth ochr y drws sydd. ar y chwith gwelir ysmotyn gwyn, yn yr hwn ar gareg galed y mae ffigyrau wedi eu tori, sydd yn dangos yr adeg yr adeiladwyd y capel cyntaf, ei ail-adeiladiad, a'i adgyweiriad ar ol hyny. Fel hyn y maent:—
1777.
1826.
1870.
Credwn yn sicr mai gwaith llaw Robert Jones, Rhoslan, ydyw y dyddiad cyntaf; oblegid efe a wnaeth waith coed y capel cyntaf. Ac yr oedd wrth ei swydd yn arfer tori ar gerig beddau, &c. Gynt yr oedd drws oddiallan, rhwng y ddwy ffenestr, i fyned i'r pwlpud, yn debyg i fel y mae capel Llangeitho wedi bod ar hyd yr oesoedd, a'r hwn sydd yn parhau felly hyd y dydd hwn. Ar adeg o eira mawr unwaith, chwythwyd eira i mewn i'r pwlpud drwy y drws, nes yr oedd wedi ei haner lenwi. Uwchben y ffenestr agosaf i'r ty capel y mae careg lâs, ac yn argraffedig arni:—
"Ysbryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, addoli mewn yspryd a gwirionedd." —Ioan iv. 24.
Cafodd un hen frawd o'r enw William Cadwaladr droedigaeth wrth ddarllen yr argraff. Pan fyddai pregethwr poblogaidd iawn yn pregethu byddai yn fynych lonaid y capel a'r cowrt o flaen y capel wedi ymgasglu yn nghyd. Agorid y ffenestr agosaf i'r ty capel; a safai y pregethwr yn y ffenestr, gan bregethu i'r rhai oedd oddifewn ac i'r rhai oedd