ynddo o'r blaen, nac o fewn hyny o bellder i unrhyw fwrdeisdref. Gan hyny enciliodd yr ychydig ffyddloniaid i gyfarfod â'u gilydd i ochr craig fawr mewn coedwig dewfrig gerllaw Capel Helyg, yr hon oedd tua phum' milldir o Bwllheli. Cawsant lawer cyfarfod hyfryd, meddir, yn y lle anial hwnw. Yn agos i'r un amser ag y pasiwyd y Ddeddf uchod, pasiwyd un arall greulonach fyth, yr hon a elwid Deddf y Cyfarfodydd Gwaharddawl, yr hon oedd yn gwahardd pob math o gyfarfodydd Ymneillduol, os ceid pump neu ychwaneg o bobl heblaw teulu y ty yn bresenol. Dan y ddeddf hon dirwywyd yr eglwys ddwywaith i haner cant o bunau. I ochel y gyfraith hon, gwnaed ystafell ddirgel yn amaethdy Cae'rtyddyn i'r eglwys ymgynull iddi. "Ty tô gwellt, a'r bargod yn ei gefn yn un â'r ddaear, oedd hen dŷ Cae'rtyddyn; a gwnaed rhyw fath o daflod uwchben y siamber, ar ran o'r ty, a thorwyd twll yn y tô yn nghefn y ty i fyned i'r ardd, a thrwy yr hwn y gallai yr addolwyr ymwthio pe buasai yr erlidwyr yn dyfod i'r ty. Yr oedd y twll wedi ei gau gyda swp o wellt yn y fath fodd, fel na wyddai neb oddiallan fod yno un. Elid i fyny iddi gydag ysgol, yr hon a dynid i fyny wedi i'r cyfeillion ymgynull yn nghyd. Dyma'r ddirgelfa y bu eglwys Capel Helyg, am amser maith, yn ymgynull iddi yn nyfnder y nos, heb na goleu na chanwyll." (Traethawd Mr. Richard Jones). Ond er i'r naill ystorm ar ol y llall chwythu ar y ganwyll fechan hon, daliodd yn oleu ac yn wresog hyd amser y Diwygiad Methodistaidd. Mor gydnaws oedd ysbryd y ffyddloniaid hyn âg ysbryd y Diwygiad, fel pan glywsant am dano yr aeth un ohonynt, Walter Williams, Ty Llywelyn, Penrhos—hen daid i Mrs. Ambrose, priod y diweddar Barch. Wm. Ambrose (Emrys), Porthmadog,—yr holl ffordd i Lanbrynmair at Lewis Rees, yr hwn
Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/42
Gwedd