Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daid i Robert Roberts), oedd y crefyddwr cyntaf yn yr ardal. O'r teulu a enwyd yr oedd amryw o feibion; a bu Sion a Rhisiart Morris yn byw yn Mryneinion; ac yma y buont feirw. Ac yn moreu oes y ddau yr oedd Howell Harris, Daniel Rowland, ac ereill, yn dyfod o'r Deheudir i bregethu." John Morris felly oedd Methodist cyntaf yn yr ardal; a'i frawd, Richard Morris, meddir, oedd y blaenor cyntaf yn y lle. Yr oedd brawd arall iddynt yn Hendre Cenin, o'r enw Robert Morris; un arall yn y Gwindy, sef Ellis Morris; ac un arall yn Tuhwnt i'r mynydd, o'r enw Griffith Morris. Buy brodyr hyn yn noddwyr da i'r achos yn ei fabandod, ac y mae eu disgynyddion wedi bod felly hyd y drydedd a'r bedwaredd genedlaeth. Ac y mae y rhai hyny erbyn hyn yn lliosog iawn, a nifer mawr ohonynt yn Fethodistiaid gweithgar a selog, a rhai ohonynt yn swyddogion eglwysig. Caniataer i ni enwi rhai o'r swyddogion hyn. Yr oedd Morris Prichard, Llandudno, yn ŵyr i Richard Morris; y mae Dr. Roberts, Penygroes, a'r Parch. Morris Griffith, B.A., Llanidloes, yn orwyrion i Ellis Morris; a Mr. R. G. Thomas, Brynengan, yn orwyr i Robert Morris. Nis gallwn gofio am neb arall.

Fel y crybwyllwyd o'r blaen, yr oedd dwy eglwys yn Eifionydd o flaen Brynengan, sef Brynygadfa ar un tu, a Foel Derwin ar y tu arall. Y rheswm paham y cafodd crefydd loches yn Mrynygadfa oedd am mai yno yr oedd yr hen bregethwr boreuol hwnw yn byw, sef Robert Owen. Yr oedd efe yn un o bleidwyr mwyaf selog Howell Harris. Byddai llawer o erlid, meddir, yn y lle hwn. Mynych y gwelwyd y swyddogion gwladol yn dyfod i mewn trwy un drws, a'r crefyddwyr yn dianc ymaith trwy y drws arall. A chyn hir erlidiwyd yr hen bregethwr ymaith o'i ffarm. Aeth wedi